Ymgynghoriad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

 

Diolch am y cyfle i ddarparu tystiolaeth i’r Pwyllgor ynglŷn â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Amlinelliad o’n hymateb rhagarweiniol yw’r llythyr hwn, cyn cyfarfod y Pwyllgor ar 10fed Mehefin. Caiff ymateb pellach a manylach ei gyflwyno ar ôl y cyfarfod hwnnw.

 

1. Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys

 

1.1       Elusen addysgol yw Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT), a sefydlwyd ym 1975. Ei hamcan yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd mewn archaeoleg’, ac mae’n cyflawni hyn â chymorth cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae CPAT yn un o bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru sy’n gweithio i helpu i warchod, cofnodi a dehongli pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys darparu cyngor i awdurdodau lleol ar archaeoleg ac ar gynllunio, ymgymryd â phrosiectau archaeolegol ar ran cleientiaid y sectorau preifat a chyhoeddus, a chyflenwi rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau archaeoleg cymunedol.

 

1.2       Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n llywodraethu’r Ymddiriedolaeth, ac mae hwn yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Mae Pwyllgor Moeseg, Pwyllgor Buddsoddi, a Bwrdd Cyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Elusennol Cofnod Rhanbarthol o’r Amgylchedd Hanesyddol CPAT yn cynghori ar weithgareddau eraill yr Ymddiriedolaeth. Fel Ymddiriedolaeth Elusennol annibynnol rydym yn cyflwyno cyfrifon blynyddol sy’n hygyrch i’r cyhoedd i’r Comisiwn Elusennau, ac fel cwmni cyfyngedig rydym yn cyflwyno datganiadau i Dŷ’r Cwmnïau. Mae CPAT yn Sefydliad Cofrestredig gyda Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr (CIfA).

 

 

2. Gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol

 

2.1       Ar y cyfan, fe fydd y Bil yn golygu y caiff asedau treftadaeth dynodedig eu gwarchod yn fwy effeithiol.

 

2.2       Rydym yn cefnogi’n arbennig y gwelliannau yn y Bil i’r diffiniad o henebion cofrestredig a’u gwarchodaeth. Rydym yn croesawu’r ehangiad o’r diffiniad i gynnwys unrhyw beth, neu grŵp o bethau, sy’n dangos tystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol, ac felly hefyd cyflwyno hysbysiadau gorfodi ac atal dros dro ar gyfer henebion cofrestredig a phwerau i gael mynediad i gwblhau ymchwiliadau archaeolegol o henebion cofrestredig sydd mewn perygl enbyd.

 

2.3       Mae’r Bil yn gwella’r sefyllfa o ran yr ‘amddiffyniad o anwybodaeth’ yn achos difrod i henebion cofrestredig, ond yn ein barn ni mae yna le i wella pethau mwy fyth yn hyn o beth. O safbwynt ymarferol, rydym hefyd yn pryderu nad oes digon o gefnogaeth yn y Bil o hyd i Weinidogion Cymru fel eu bod yn gallu mynd ati i erlyn achosion yn llwyddiannus pan mae difrod wedi digwydd heb ganiatâd, neu pan mae amodau caniatâd heneb gofrestredig wedi’u torri.

 

3. Gwella mecanweithiau sy’n bodoli i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy.

 

3.1       Ar y cyfan, fe fydd y Bil yn gwella mecanweithiau i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy.

 

3.2       Rydym yn croesawu’n fawr y gofyniad i awdurdodau lleol greu a chynnal Cofnodion o’r Amgylchedd Hanesyddol. Mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i sut i eirio’r cymalau yn y Bil, ac i natur y canllawiau ategol, i sicrhau y caiff y trefniadau presennol eu cynnal yn gydlynol ac yn gyson ledled Cymru. Gwneir sylwadau pellach ynglŷn â hyn ar ôl 10fed Mehefin.

 

3.3       Rydym hefyd yn cefnogi’r darpariaethau ar gyfer Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth, ac yn croesawu’r dull cyson yn y maes hwn o drin henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig.

 

3.3       Rydym hefyd yn croesawu’n fawr creu cofrestr statudol ar gyfer parciau a gerddi hanesyddol er, yn anffodus, ni wnaed unrhyw ddarpariaeth debyg ar gyfer Safleoedd Treftadaeth y Byd a thirweddau hanesyddol cofrestredig.

 

4. Cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd i benderfyniadau a wneir ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol.

 

4.1       Ar y cyfan, mae’r Bil yn cyflwyno mwy o dryloywder ac atebolrwydd i benderfyniadau a wneir ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol.

 

4.2       Rydym yn croesawu’r cam i greu Panel Cynghori ar Dreftadaeth, ond mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i’w berthynas â’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol presennol a chyrff a grwpiau rhyngadrannol a rhyngasiantaethol eraill.

 

4.3       Rydym hefyd yn croesawu’r gwelliannau cyffredinol i’r prosesau ymgynghori, adolygu a dynodi ar gyfer henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig. Bydd y dulliau o drin y ddau fath o ased dynodedig yn debyg iawn; ynghyd â llacio ar yr amodau ar gyfer ceisiadau am imiwnedd, fe ddylai’r mesurau hyn symleiddio’r system a chael gwared ag agweddau aneffeithiol. Rydym hefyd yn croesawu’r gwelliannau i’r modd o ledaenu gwybodaeth yn y maes hwn.

 

 

Yr eiddoch yn gywir

 

 

 

 

 

Paul Belford BSc MA FSA MCIfA

Cyfarwyddwr

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys